Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i bob cyfeiriad oddiwrth yr eglwys. Y mae y rhai hyn mor uchel a chul fel na wel yr haul byth mo’u gwaelod. Teifl pob llofft allan uwch ben y llall, a phrin y gwelir yr awyr rhwng dau fargoed sydd bron a chyffwrdd ei gilydd. Medd pob tŷ ddrws mawr a ffenestri mawrion yn agor i'r stryd, a gellir gweled cynnwys pob tŷ wrth fyned heibio. Gwelsom dŷ teiliwr, a deg neu ddeuddeg o feibion a merched yn gweithio ynddo, ystafell eang, lle cysgir ac y bwyteir ac y gweithir. Ar ei chyfer yr oedd tŷ crydd, ac yr oedd yntau a'i feibion a'i ferched yn gweithio yn ddygn. Yr oedd pobl y ddau dŷ'n medru siarad â'i gilydd yn hawdd, ac yr oedd pobl y llofftydd uwch ben, hefyd, yn medru cymeryd rhan yn yr ysgwrs. Rhaid fod pobl yr ystrydoedd hyn yn adnabod ei gilydd yn dda; y mae'n anhygoel iddynt y gellir byw am flynyddoedd mewn tref Seisnig heb adnabod pobl y tŷ nesaf. Yr oedd llawer o'r tai yn hen iawn, yn bedwar can mlynedd a chwaneg, fel y tystiai'r trawstiau derw cerfiedig prydferth.

O gyffiniau'r eglwys cerddasom i orsaf y ffordd haearn, a gwelsom y medrem gael tren hwyr i St. Brieuc, ac yr oedd yn llawenydd inni gael troi'n ol i dreulio teirawr yn ychwaneg yn Ninan. Troisom yn ol heibio'r Hotel d'Angleterre, — gwelsom y pedair Saesnes yn eistedd wrth y ffenestr agored, ein golwg olaf arnynt, a cherddasom ar hyd y mur, gan fwynhau'r olygfa ar y dolydd a'r bryniau, gyda theml Brotestanaidd fechan yn eu mysg, ymestynnent tua'r gorllewin. Ar gornel ddeheuol y mur y mae castell gyda thŵr dros gan troedfedd o uchter. Bu unwaith yn balas, — y mae cader y dduces Ann ynddo eto,— bu Senedd Llydaw'n ymgyfarfod ynddo, bu'n garchar i filwyr Lloegr yn ystod rhyfel Boni, ac yn awr y mae'n llawn o garcharorion Ffrainc. Troisom yn ol i'r Place Duguesclin ac aethom i gafe i gael, — na, does yma ddim tê,— coffi a llaeth a bara ac ymenyn. Gofynnais i ŵr y botymau a fedrai siarad Llydaweg. Na fedrai, ond