Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywedodd fod pobl yn y farchnad fedrai. Edrychasom i lawr o'r ffenestr ar y Place Duguesclin,— lle mawr agored, gyda dwy res o goed pisgwydd ar hyd-ddo, — a gwelsom ei fod yn llawn o bobl y wlad. Yr oedd eu hwynebau mor Gymreig fel y meddyliasom am ennyd ein bod yn edrych ar ffair y Bala. Gwelem yno yr hen wŷr ceimion a'r hen wragedd siaradus, a'r wynebau ieuainc tlysion, gwylaidd, welir yng Nghymru; ond yr oedd arwydd diod ar rai o'r dynion canol oed. Gwyddem fod llawer golygfa ryfedd wedi cymeryd lle ar y Place Duguesclin hwn, — llawer gorymdaith ardderchog fu'n mynd trwodd ar ryw uchel wyl Babyddol; llawer brenin a brenhines fu'n edrych ar gampau'r dorf; llawer twrnament fu yma rhwng gwŷr llurigog o bob gwlad ; llawer lleng o filwyr Llydewig fu'n canu eu halawon am y tro olaf yma cyn cychwyn i'r rhyfel yn erbyn Lloegr neu'r Almaen. Y mae enw Duguesclin yn un o'r rhai anwylaf yn Llydaw, er fod pum can mlynedd er pan beidiodd a'i derfysg. Hanes Llydaw yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ydyw hanes yr ymladd am ei choron rhwng Montfort a Blois. Daeth y Saeson yn gynorthwy i Fontfort, a chymerasant lawer o gestyll Llydaw, gan feddwl cadw meddiant ohonynt fel mynedfeydd i Ffrainc. Arwr y Llydawiaid yn erbyn y Saeson oedd Duguesclin. Ni fedrai ddarllen nac ysgrifennu, ond medrai ymladd ei ffordd trwy fyddin â'i fwyell rhyfel. Yr oedd yn ymladd bob amser, mewn heddwch a rhyfel. Bu gornest rhyngddo a Syr Thomas Canterbury ar y lle hwn, ar geffyl gyda phicellau i ddechre, yna ar droed gyda chleddyfau. A yw'n edifar gennyt garcharu fy mrawd?" ebai Duguesclin, a blaen ei gleddyf ar wddf y Sais gorchfygedig. "Nac ydyw," ebai hwnnw, ond arbedwyd ei fywyd ar daer gais Duc Lancaster. Y mae cerfddelw o'r hen filwr garw yn Ninan, ac y mae ei enw'n byw mewn llawer cerdd Lydewig, cerdd ddywed am dano'n dinistrio cestyll y Saeson, ac yn amddiffyn ei gydwladwyr gorthrymedig.