Yr oeddym wedi gwneud rheol na ddewisem ein gwesty cyn ei weled, hynny ydyw, na fynnem gerbyd yn unlle i'n cludo o'r orsaf i'r dre. Nid y gwesty goreu fedd y cerbyd hardda'n aml, na'r llythrennau mwyaf arno. Nid am westai mawrion, lle na welem ond clarcod diamynedd a gweision lifre anwybodus yr oeddym yn chwilio, ond am rai cysurus, lle mae popeth dan lygad y pen-teulu, lle caem groeso gwledig a hanes ddigon. Y mae digon o'r gwestai hyn yn Llydaw, ond nid mewn cerbyd yr eir iddynt bob amser.
Pan welsom gerbyd olaf St. Brieuc yn diflannu i'r ystrydoedd tywyllion, ofnasom ein bod wedi gwneud camgymeriad am dro. Buom yn cerdded milltiroedd debygem, — ni ŵyr neb faint fydd yn gerdded pan mewn ofn a phryder, — yr oedd yr ystrydoedd yn mynd yn gulach, yn dlotach, ac ni welem na goleu llusern lety na neb a'n cyfarwyddai at y cyfryw. O'r diwedd daethom ar draws bôd yn ymsymud yn afrosgo trwy'r ystrydoedd gweigion, gan sefyll ennyd weithiau i ymsefydlu ar ei draed ac i synnu at ansefydlogrwydd y ffordd, un yn dychwelyd adre oddiwrth gymdeithion iddo. Ond i ni ei ddilyn ef, sicrhai ni y caem y gwesty mwyaf cysurus yn St. Brieuc. Ond toc eisteddodd ar risiau eglwys, a chyfaddefodd, er ei fod wedi ei eni a'i fagu yn y dref, na wyddai ar y ddaear fawr ym mha le yr oedd. Gadawsom ef yno, a phrysurasom ymlaen. Gwelsom oleuni llusern yr Hôtel de l'Univers, er llawenydd nid bychan i ni. Gofynwyd a oedd arnom eisiau swper, mewn llais ddanghosai'n eglur na chaem ddim ond o anfodd, ac arweiniwyd ni trwy lawer cyntedd i ystafelloedd eithaf cysurus. Yr oedd yr haul yn uchel ddigon pan ymddanghosasom bore drannoeth, ac ychydig o'r gwesteion oedd yn aros, — tair Ffrances yn cwyno'n enbyd am hyd eu bil, a gwraig weddw mewn galarwisg, gwisg laes yn ei gorchuddio i gyd, ond fel y gellid gweled holl ffurf ei chorff, ei mynwes berth ei thro. Mae llawer telyn ar yr helyg, ond heb ei thorri er hynny.