Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dywedir fod dwy ffordd o deithio yn Llydaw—ar draed, i weled llawer; neu gyda'r tren, i weled dim. Yn lle teithio gyda'r tren araf dros wastadedd Plouagat a Guengamp a Threglamus, lle na welsem ond meysydd o wenith a meillion a llin, penderfynasom gerdded tua'r gorllewin gyda glan y môr. Ni chymerasom ond cipolwg ar heolydd budron St. Brieuc esgobol cyn cychwyn tua'r wlad. Cawsom well syniad am y bobl mewn hanner awr nag a gawsem yn y tren mewn wythnos. Gwelem y bobl gyda'u gorchwylion, cylch o ferched yn golchi dillad o amgylch pwll; geneth ieuanc yn gyrru trol hir i'r farchnad, a wyneb tlws iach, a chap gwyn Llydewig; gŵr a gwraig yn golchi llin eu tyddyn bychan yn yr afon, llin wneid yn lliain cartref pan ddoi nosweithiau hirion y gaeaf; hen offeiriad tew, darlun o erlidiwr, yn gwgu arnom ac yn chwipio'i geffyl i lawr y goriwaered wrth ein pasio. Sylwem fod tai da ymhobman, wedi eu hadeiladu'n gryfion a chysurus. Gallesid meddwl fod Llydaw ymhell ar y blaen i Gymru wrth edrych ar dai ffermydd y ddwy. Yn Llydaw Babyddol, pobl dlodion a diog, — rhai heb law na phen na chalon, — a hwy'n unig, sy'n gorfod byw mewn tai fel tai amaethwyr cynnil deallgar Cymru. Estronodd y Diwygiad werin Cymru oddiwrth ei harglwyddi, — oddiar hynny, nid edrych y landlordiaid ar y bobl fel rhai i'w deall ac i gydymdeimlo â hwynt, ond yn unig fel rhai i'w gorfodi i roddi gwasanaeth trwy rym cyfraith. Ac eto, y Diwygiad wnaeth y Cymry'n foddlon i ufuddhau i bob iod a phob tipyn o'r gyfraith sydd wedi gwasgu mor drom arnynt, y Diwygiad ddysgodd y Cymro nwydwyllt gynnig y gern arall i'r hwn a'i tarawo, ac i beidio gwahardd ei bais i'r hwn a ddygo ymaith ei gochl. Diwygiad crefyddol yng Nghymru, Chwyldroad yn Ffrainc, — y mae'r Cymro eto'n talu rhent uchel am ffermdy adfeiliedig, ac y mae'r Llydawr yn ei dŷ eang dan ardreth deg. Llawer hanesydd sydd wedi cyferbynnu cyfraith Lloegr âg anghyfraith Ffrainc,