Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond y mae rhyw Ffilistiad wedi prynnu'r lle; ac os â rhywun, yng ngrym ei gariad at yr hen amseroedd, i grwydro drwy'r colofnau a'r coed, dianga'n ol am ei fywyd, ac anferth gorgi nerthol, llwyd, yn ymysgwyd o'i ol.

Y mae Pen Pwl yn ymdrochle bach prydferth, a gwelsom lawer o longau Prydeinig wedi dod iddo 'i gael llwyth o datws. "Disgynfa'r Gwerinwyr" oedd enw'r gwesty cyntaf welsom, a G. Penanhoat oedd yn ei gadw. Y mae G. Penanhoat yn ŵr call yn ei genhedlaeth, ar ystyllen yr oedd y gair "gwerinwyr," oherwydd cred ef, fel llawer Llydawr arall, y gellir tynnu'r ystyllen cyn hir, fel yr ymddanghoso'r hen air "brenhinwyr" drachefn. Yr oedd Ifor Bowen yn canu, —

" And whatsoever king shall reign,
I will be Vicar of Bray, sir,"

.

wrth i ni grwydro drwy'r ystrydoedd i chwilio am le cyfaddas i orffwys. Yr oedd yn ddau o'r gloch y prynhawn pan oeddem yn cael pob croeso yn ystafell fawr lân y Llew Coch, lle fel amgueddfa, yn llawn o gregin a blodau, a hen ddodrefn a darluniau.

Wrth fyned allan dywedasom "Amser braf" wrth un a safai ar y rhiniog. Tynnodd ei wyneb ein sylw ar unwaith. Gŵr byr o gorff ydoedd, ond cydnerth cadarn, gydag ysgwyddau llydain a wyneb yn ddarlun garw o garedigrwydd. Yr oedd ei wallt yn ddu a'i wyneb yn goch, lliw, cynnes a gafodd wrth wenu ac yfed gwin rhudd. Esgidiau pren oedd am ei draed, het wellt goryn isel gantel mawr a ruban am dani oedd am ei ben, a thros ei grys gwlanen yr oedd hugan gotwm lâs yn cyrraedd at ei liniau. Yr oedd chwip cyhyd a genwar yn ei law; ond nid oedd blentyn yn myned heibio na wenai arno, oherwydd wyneb Ioan y Gyrrwr oedd fwyaf nodweddiadol, nid ei chwip. Ni holodd ein hanes, ond yr oedd ei wyneb yn ein gwahodd i'w ddweyd. Pan glywodd ein bod yn myned i Lannion