Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lanweithdra a chynildeb, — a glasiaid inni. Yr oedd y dŵr yn glaear, fel pe bai newydd ei godi o lyn chwid. Yr oedd yno ddigon o ddiodydd, ond yr oeddynt yn feddwol i gyd. Nid oedd yno de, a phan ofynasom am dano, deallasant yn union mai Prydeinwyr oeddym.

Y mae Llydaw'n wlad sychedig iawn, gwlad lawn o lwch, gwlad nad oes ynddi ond ychydig o ddwfr rhedegog. Dylid cofio hyn wrth glywed fod y Llydawiaid yn bobl feddwon. Yr oedd hen grefyddwr yn byw yn Llanuwchllyn flynyddoedd yn ol o'r enw Rhobet Rhobet, ac yr oedd syched yn llinell bur eglur yn ei gymeriad. "Ie, Ie," ebai'n gwynfannus, pan glywai y disgyblid ef yn y seiat, yr hen stori ydi hi o hyd, pawb yn sôn fod Rhobet Rhobet wedi meddwi, a neb yn sôn am y syched mawr oedd ar Rhobet Rhobet."

Fel yr oeddym yn myned yn bellach i Lydaw, yr oedd y croesau'n amlhau. Gwelem fod llawer o honynt yn newydd, ac enwau y rhai a'u codasant danynt, rhyw Julie Madoc neu Mari Tregwiel. Yr oeddynt yn mynd yn fwy arddunol hefyd. Croesau plaen welsom gyntaf; yna corsen a gwaewffon arnynt; yna darlun o gorff yr Iesu; yna'r Iesu a'r ddau leidr; ac ar oror môr y gorllewin, ceir mynydd Calfaria dan y groes, ac Iddewon a Rhufeiniaid arno. Yr oedd yr offeiriaid yn amlhau hefyd, a'r begeriaid. Henaint, dallineb, cloffni, llaw wywedig, craith, — y mae hyn oll yn esgus dros sefyll ar ochr y ffordd, a gwaeddi ar y teithiwr am elusen, a mawr dda fo iddo.

O ben bryn Ceriti gwelsom y môr. Buom yn eistedd yn hir ar fur y pentref hwn, — gyda'i hen ysgol lwyd, a'i groes, a'i gaeau gwenith, — i edrych ar yr ynysoedd a'r creigiau frithent y lan. Oddiyma dringasom trwy ddyffryn coediog i fynachlog Beauport. Nid oes leoedd mwy rhamantus yn y byd na'r mannau ddewisodd y myneich i gyfaneddu ynddynt, priodol y gelwir y ile hwn yn "Hafan Dlos." Y mae muriau eglwys y mynachty'n aros eto, a choed yn tyfu y tu mewn, ac yn estyn eu pennau allan drwy y ffenestri bwaog.