Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII.

IOAN Y GYRRWR.

"I fairly, therefore, divided my half — guinea, one half of which went to be added to his thirty thousand pounds, and with the other half I resolved to go to the next tavern, to be there more happy than he." — OLIVER GOLDSMITH.

TUA saith deffroisom, ac yr oedd yn ben ddiwrnod ar y Llydawiaid boreuol. Clywem swn hollti coed a malu coffi, a dwrdio cŵn a ffrio golwythion cig; gwelem y farchnad yn llawn o hen wragedd yn eistedd uwchben brethyn a llysiau, ffrwythau a chrymanau a melysion.

Yr oedd degau o bobl yn ffarwelio â ni pan adawsom Blw' Ha, a synnent ein bod yn meddwl cerdded yr holl ffordd i Ben Pwl. Yr oedd ein ffordd yn drom ac eithaf anifyr am y teirawr cyntaf, gwelem hi'n rhedeg fel saeth dros yr ucheldir gwastad am filltiroedd o'n blaenau. Draw ar ben y bryn byddai rhyw dref, — mae pob tref yn Llydaw naill ai ar ben bryn neu wrth enau afon, ac araf iawn y gwelem ein hunain yn agoshau ati. Ar ochrau llychlyd y ffordd hir gwelem lawer hen gyfaill yn gwenu, — botwm y gŵr drwg, glaswenwyn, dor y fagl, llin y mynydd, eithin. Weithiau arosem i dynnu sgwrs â'r genethod bochgoch oedd yn medi gwenith â'u crymanau anghelfydd. Weithiau pasiem bedair neu bump o ferched, a breichiau fel cewri, yn torri cerrig ar y ffordd. Tybiem fod bron bob gwaith caled yn cael ei wneud gan ferched, yr oedd y dynion oll gyda'r ceffylau, neu yn y fyddin, neu ar y môr. Erbyn cyrraedd Plw' Esec, yr oeddym yn ddigon sychedig i hiraethu am rai o aberoedd mynyddig Cymru. Troisom i mewn i Westy Ffrainc, a gofynasom yn Gymraeg am ddŵr. Daeth gwraig, — darlun o