Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

santes sêth hoywgorff, gariai ambarelo diddefnydd, ac a wisgai gôt fach dwt, ac esgidiau byclau arian. Prin yr oedd y weddi olaf drosodd cyn i'r bobl ddechre dylifo tua'r drws. Gwelais Josephine yn mynd yn eu canol, fel blodyn coch ar genlli gwyn, a gwelais Sian ar ei gliniau gyda'r ychydig oedd wedi aros ar ol i dderbyn eu cymun o law'r offeiriad.

Llawer Llydawr a'n hysbysodd ei bod yn "amser Mad" wrth i ni fyned i lawr o'r eglwys tua Gwesty'r Cydfyd. "Yr oedd pawb welem yn berffaith heddychlon a dedwydd y bore Sul tyner hwnnw, oddigerth dyn dall ymhyrddai trwy'r bobl tua phorth yr eglwys, wedi methu codi'n ddigon bore i gymeryd ei le gyda'r ddwy ddynes i fegio, ac wedi colli'r dod allan yn gystal a'r mynd i mewn.

Cyn deg yr oeddym yn dringo tua'r eglwys eilwaith, i glywed canu gwasanaeth yr offeren. Yr oedd y dyrfa'n lliosocach, sŵn y clychau'n ddyfnach a melusach, ac wedi mynd i fewn gwelem fod hen offeiriad penwyn urddasol wedi cymeryd lle'r offeiriad bach llais main. Dan lofft yr organ yr oedd plant yr ysgolion, mewn dillad gweddus, a'r lleianod yn gofalu amdanynt. Nid wyf fi'n credu mewn rhoi'r plant gyda'i gilydd wrth addoli, yn y sêt deuluaidd y dylai'r plentyn fod, dylai deimlo fod ei deulu'n addoli, ac y bydd bwlch yn hen deulu'r set os crwydra byth oddiar y llwybrau gwerthfawr drud.

Ond dyna lais yr offeiriad. Y mae'n felodaidd odiaeth, tinc Dolyddelen i'r dim, —

"Judica me, Deus, et discerne causam meam de gente non sancta; ab homine iniquo et doloso erue me."

(" Barn fi, o Dduw, a dadleu fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog; rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn, gwared fi." Ps. xliii. l.)

Ni ddylwn ddweyd fod yn bosibl torri cymeriad adnod, ond ni fedraf fi hoffi'r adnod hon byth. Ni fu erioed bobl fwy diniwed a chariadus na Waldensiaid