Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn cael digon ar chware, ac yn mynd drosodd yn lluoedd i Eglwys Rufen. Nid ydyw Eglwys Loegr yn lle i orffwys ynddi, saif ar hanner y ffordd rhwng Rhufen a Chalfiniaeth, — ni fedd ei haddoliad fawredd y naill na meddylgarwch y llall.

Yn drydydd, mae'n anodd proffwydo pryd y derbyn y Llydawiaid grefydd Cymru. Nid ydyw Llydaw yn yr un cyflwr ag yr oedd Cymru ynddo'n union cyn y Diwygiad. Nid ydyw offeiriaid Llydaw'n segur, y mae'r Chwyldroad wedi eu gwneud yn effro iawn; nid gwasanaeth llygoer Eglwys Loegr sydd yn Llydaw, ond gwasanaeth sydd wrth fodd y Celt; a mwy na'r cwbl, nid ydyw Ffrainc yn gadael Llydaw iddi ei hun, fel y gadawodd Lloegr Gymru, y mae ymdrechion diderfyn yn cael eu gwneud i Ffranceiddio Llydaw, — gwneud y Llydawiaid yn feilchion, yn ddiddym, ac yn anffyddol. Ond, o'r ochr arall, y mae dylanwad yr offeiriaid yn darfod; y mae Protestaniaeth Cymru wrth fodd y Llydawiaid; a hwyrach fod digon o gadernid yn yr ysbryd Llydewig, — pe'r atgyfodai, — i wrthod gwareiddiad' arwynebol gwan Ffrainc, ac i syrthio'n ol ar hen ysbryd crefyddol a meddylgar y Llydawiaid eu hunain.

Pe cydiai Cymru yn llaw Llydaw, medrai ei harwain hyd ei llwybrau ei hun. A pha beth bynnag gaffai Llydaw o hynny, cai Cymru fil mwy. Dywedir fod gwylio ei blant yn tyfu yn rhoddi llawenydd ieuenctid drachefn i'r tad, teimla ei fod yn ieuanc gyda hwy. Pe dysgai Cymru Lydaw i gerdded ffyrdd yr Arglwydd, adnewyddai ei hieuenctid ei hun wrth wneud hynny, profai drachefn o lawenydd iachawdwriaeth yr hen ddiwygiadau. Ond henaint sicr i Gymru fydd anghofio Llydaw. "Pan ddychwelo Sodom a'i merched i'w hen gyflwr, yna tithau a'th ferched a ddychwelwch i'ch hen gyflwr; canys nid cedd mo'r son am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchter."