Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
"Mae llawer iawn, dros gant. Mae ugain yn yr eglwys y buoch chwi ynddi'n unig. Mae Lannion yn lle ceidwadol iawn, a brenhinol, am fod cymaint o bendefigion yn byw oddiamgylch, ac y mae yr offeiriaid a'r boneddigion yn cyd - fynd bob amser."
"A ydyw gwerin bobl Lannion ar delerau da â'r offeiriaid? "
" Yn y dref 'dydi'r bobl yn hidio fawr amdanynt, ond y mae pobl y wlad yn credu ynddynt eto, byddant yn cario popeth iddynt; gwin, osia, tatws, gwenith, ffrwythau, popeth. Mae'n gywilydd fod pobl sy'n gweithio dim yn cael cymaint o bethau."
"A oes yma ddim Protestaniaid?"
Oes, ddau deulu. Swisiaid ydynt, a daeth pregethwr i aros gyda hwynt unwaith. Pregethodd, ac aeth pawb, pawb, i'w glywed. Ac yr oedd o 'n pregethu'n dda. Ond yr oedd yn dweyd nad oes eisiau cyffesu. Fyddwch chwi'n cyffesu?"
"Byddwn."
"I bwy? I'r bugail Calfinaidd? "
"Nage, i Dduw."
"O, mae hynny'n llawer gwell."

Teimlai Sian mai trwy rywun yr oedd hi'n mynd at Dduw. Rhedodd ymaith, a daeth a Josephine gyda hi'n ol. Yr oedd Josephine yn hoffach o holi na Sian, a nyni oedd yn gorfod ateb. Pan glywsant nad oedd gan y Protestaniaid ond nefoedd ac uffern, heb yr un purdan, yr oeddynt yn meddwl fod hynny'n well o lawer. Teimlem eu bod yn credu nad oedd y gwirionedd ganddynt hwy, eu bod wedi colli eu ffydd yn eu hoffeiriaid, a'u bod yn barod i grefydd arall.

Ar ol cinio aethom i fyny'r bryn o Lannion i eglwys Brelevenez, a chawsom olygfeydd prydferth cyn cael ein hunain ar y platfform uchel y saif yr hen eglwys arno, gyda'i thŵr ysgwar a'i ffenestri Normanaidd hirion. Yr oeddym yno ymhell cyn dechre, a rhoisom dro drwy'r fynwent sydd o amgylch yr eglwys i ddarllen yr enwau sydd ar y beddau. Gwelsom fedd plentyn Seisnig fu farw yma, a charreg gof i ryw Gabrielle le Yaudet, un o Lannion, fu farw yn "ei lleiandy yng Nghaersalem," wyth mlynedd yn ol. Yng Nghymru darlunir gwragedd ar gerrig beddau fel gwraig