Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddylifo i mewn, ac yr oedd galw mawr ar y dwfr santaidd. Yr oedd pawb wedi ymdawelu pan ddechreuodd y gwasanaeth, ac edrychasom oll tua'r allor. Gwelem y pulpud pren cerfiedig a'r capeli o farmor coch a gwyn ; y côr prydferth a darlun o Fair ynddo, yng ngwisg merched ffasiynol amser balch Louis XVI.; y canhwyllau cwyr meinion hirion, o bob lliw, a goleu bychan coch ar bob un, fel pe baent gynifer o flodau'r haul. Yr oedd gwisg yr offeiriad yn arddunol i'r eithaf, — sidan gwyn ac ymyl aur, a choron emog ar ei gefn; yr oedd gwisg bechgyn y côr o sidan glas, a surcot ridyllog wen arni. Darllennai'r offeiriad â llais crynedig, a gallwn feddwl yn hawdd, oni bai am y dillad gorwych, mai hen Gymro oedd. Arweinid y gân gan ddyn a basûn enfawr, a rhyfedd y sûn fedrai mor ychydig o fechgyn gadw. Wedi'r gwasanaeth, yr hwn oedd yn wir darawiadol drwyddo, aethant allan yn rhes, — yr hen offeiriad crand, offeiriad ieuanc, a'i gnawd fel siglen dongen, dyn y casgliad, dyn y basûn, a'r bechgyn gleision. Rhuthrodd y dynion allan, ond arhosodd y gwragedd ar ol. Ymhen hanner awr edrychasom i mewn, ac yr oedd llawer ohonynt yn aros yno.

Pan ddaethom i lawr i'r dre, gwelsom fod y prif heolydd yn llawn, oherwydd yr oedd y dydd yn ddydd gwyl Ann Santes. Yng nghanol tyrfa ger y bont, gwelem y dyn dall oedd yn begio wrth ddrws yr eglwys y bore. Yr oedd yn canu baledi'n awr; ac yr oedd dyn meddw, a thrwyn mawr cam, a cheg fel bwcwl esgid, yn ceisio dal y gragen iddo. Fel hyn y mae o hyd, — yr offeiriaid wrth ben eu digon, a'r gler ar newynu. Pawb at y peth y bo, yr offeiriaid i ddiolch am dynerwch Rhagluniaeth, a'r clerfardd sychedig i ganmol yr hwn fedd win a chalon hael. Ni fedrwn ddeall y gân, oddigerth ambell air. Ond yr oedd tyrfa astud yn ei deall yn iawn, ac yn ei mwynhau fel y byddai Cymry'r ffeiriau'n mwynhau cerddi Jac Glan y Gors. Y mae het y Llydawiaid yn union fel