het person, neu het ambell sprigin o bregethwr heb basio arholiad y Cyfarfod Misol; a golygfa digon rhyfedd oedd gweled cynulleidfa o bobl dan y fath hetiau yn gwrando'n geg agored ar faledwr pen ffair Nid oedd gennyf fi fawr o ffansi o'r baledwr ymgrymai i'r saint wrth yr eglwys ac a roddai ei fys ar ei gap i'r lleill wrth y bont, — nid hoff gennyf bobl fo’n goleuo'r ddau ben i'w canwyll, ond cwynwn er hynny na fedrwn ddeall ei gân. I fy nghysuro, canodd Josephine gân hiraeth hen Lydawr am ei wlad, a gadawodd i mi ei hysgrifennu. Dygais hi adre, a chyfieithwyd hi gan gyfaill i mi. Ystyrir ef yn fardd gan ferched ieuainc ei ardal, y mae wedi ennill droeon mewn cyfarfodydd llenyddol, a dywedodd y beirniad craff Ap Sebon unwaith y gellir bardd o honaw. Dyma'r gân, —
Hen gastell fy nhad, man crud fy mabandod,
Nyth tawel fy mebyd a fuost i mi,
Ymhell oddiwrthyt heneiddiais, yng nghryndod
Fy henaint rwy' heddyw yn canu i ti.
Daw atgof am danat fel llais pell obeithion,
Clywaf furmur dy ddyfroedd a su dy awelon,
Clywaf adlais yr adar o'th ddwfn goedydd duon,
Wrth nythu y gwanwyn yn dy dawel gysgodion.
A theimlaf d’unigedd yn gordoi fy ysbryd,
Unigedd rydd heddwch ac anghof o'm blinfyd.
Yng nghanol y ddawns, lle mae gwisgoedd yn disgleirio,
Gan emau tryloywon fel mellt wrth fynd heibio,
Lle teifi y coronau ar lygaid llawn cariad
Eu heuraidd gysgodion, — daw meddyliau am danad.
Wrth weled brenhines y ddawns yn ei thlysni,
Daw meddyliau am flodyn sy'n harddach na hi,
Lili aur Llydaw, mae hon yn teyrnasu
Ar flodau'r mynyddoedd, cyfoedion i mi.
Dychmygaf fod eto ar fryniau f’hen Lydaw
Yn casglu y gwinwydd yn blentyn fel cynt,
Ymysg fy nghyfoedion rwy'n gwrando hen alaw,
Yn dawnsio'n ysgafn — droed a'm gwallt yn y gwynt.
Mae'm traed yn cyflymu drwy'r glaswellt aroglus,
Drwy liliau tal eurfron, drwy lygaid y dydd;
Anghofiais fy henaint, a’m hofnau pryderus,
Mae f’enaid yn Llydaw! Mae f’enaid yn rhydd !