Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gadles," fel eu gelwir, — yw bwyta'r mêl o gychod rhai eraill, cardota, gwlana, bendithio â'r genau, a melltithio â'r galon. Nid oes ond un tlodi anrhydeddus, — tlodi fel tlodi ein Gwaredwr, — tlodi y syrthiwyd iddo trwy weithio a dioddef dros eraill. Fel y mae gwlad yn dod yn fwy crefyddol, diflanna'r cydau cardod, ac amlha gweill, ceibiau, a rhawiau.

Y mae'r ffordd o La Clarte i Blw' Manach gyda'r ryfeddaf fum i 'n deithio erioed. Dringasom i gopa bryn, ac i frig craig anferth orffwysai ar ei ben. O'n blaen yr oedd anialwch o greigiau erchyll, neu yn hytrach o gerrig llwydion yn bentyrrau ar ei gilydd. Gallem yn hawdd ddychmygu mai rhyw anialwch dwyreiniol ymestynnai o'n blaenau, a'r cerrig fel camelod yn gorwedd arno, a'r Ffrancesau sidanog welsem yn La Clarte fel ambell i fflamingo oleugoch ysblenydd yma ac acw. Gyda min yr anialwch hwn gwelem dawelwch dedwydd eangder y môr.

Wrth ymlwybro rhwng y cerrig, bron na feddyliem mai pennau cawrfilod, penglogau hen anifeiliaid y cynfyd oeddynt, y gwylltfilod y byddis yn breuddwydio am danynt, wedi eu troi'n garreg. Rhwng y cerrig, gwelem feysydd gwenith aeddfed, a llwybrau glaswelltog, a thai crynion dieithr, — magwrle plant bach tlws, rhy swil i fegio, a iechyd tlodi ar eu gruddiau, yn dianc i syllu arnom o ben carreg uchel neu o ddôr fwaog eu cartref. Gwelsom dŷ a'i adeiladau wedi eu codi ar un garreg wastad, ac yr oedd lle ar yr un garreg i fuarth eang a theisi gwair. Yr oedd un garreg fel llew wedi neidio ar gefn yr hydd, ac yn gafael â'i ddannedd yn ei ysgwydd; yr oedd rhai eraill fel chwilod wedi chwyddo i faintioli aruthrol. Ai'r cerrig yn fwy ac yn amlach fel yr elem ymlaen, yr oeddynt fel cawrfilod wedi gorwedd ar ei gilydd yn bentwr.

Gyda i ni gyrraedd glan môr, disgynnodd y niwl gwyn trwchus ar y ddaear drachefn, ac yr oedd rhywbeth ofnadwy yn yr olygfa ar y cerrig mawr drwy'r niwl, a rhu'r