Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

môr yn adseinio o honynt. Gadawsom breuddwyd cynhyrfus o greigiau ar ein hol, a theithiasom ar hyd y traeth i Blw' Manach. Y peth cyntaf welsom oedd delw Gwirec Sant, a'i wyneb tua'r môr, oherwydd gweddio dros forwyr yw ei waith. Yr oedd dwy fam yn dysgu i'w plant gerdded o amgylch traed y saint, a dywedent wrthym mai amser sal" oedd at weled y wlad, oherwydd y niwl. Gerllaw yr oedd capel y sant, ac ar hyd ein ffordd gwelem ddarnau o groesau, wedi eu malurio gan yr hin. Aethom drwy bentref Plw' Manach, a daethom at ddwy felin droir gan y môr. Y mae argae wedi ei wneud ar draws genau cwm main, agorir y llif — ddorau pan fo'r môr yn dod i mewn, a cheuir hwy pan fydd yn dechre treio. Gadewir digon o ddwfr i droi'r melinau sydd ar yr argae hyd nes y daw'r llanw i mewn drachefn. Clywsom yr arog] blawd wrth basio'r melinau, a gwelem resi hirion o Lydawiaid yn mynd ar ol ei gilydd, fel gwyddau, a'u beichiau ar eu cefnau tua'r felin. I Blw' Manach y bydd pobl Tregastell a'r wlad o'i hamgylch yn dod "i'r môr." Gwelsom hwy yn eu dillad goreu, yn llewys eu crysau rhag dwyno eu côt, yn edrych ar y pysgotwyr oedd yn brysur ar y traeth. Weithiau cyfarfyddem amaethwr yn gyrru cerbydaid o blant iach, a phrin yr oedd amser i gael gair wrth basio, —

"Ai dyma'r hynt i Dregastell? "
Ia, ia, dena hi."

Dywedir "Ie, Ie" gyda mwy o bwyslais yn Llydaw nag yng Nghymru, fel y bydd dyledus yn dweyd wrth ei ofynnwr pan fo hwnnw'n darlunio ei fawr angen am arian.

Yr oeddym yn troi ein cefnau ar y môr, ac yn cychwyn i Lannion ar hyd ffordd arall. Cyn dod i Drecastell, eisteddasom dan gysgod coed eglwys fechan y Graig Arian, ar ben bryn. Yr oedd amryw bentrefydd mân o dai to brwyn o'n hamgylch, a pherllannau