afalau, a chaeau gwair, a gwenith, a thatws, a chloddiau gyda mawn yn sychu ar eu pennau. A thraw yr oedd y traeth tywodlyd fel llawr aur, a'r niwl fel gorchudd o geinwaith arian drosto. Tybiem ein bod yn gweled amlinelliad gwan y Saith Ynys trwy'r niwl, ond hwyrach mai dychmygu yr oeddym. Cofiasom mai yn rhywle ar y traeth niwliog dieithr o'n blaenau y dywed y Llydawiaid fod Arthur Fawr yn huno, i iachau ei glwyfau, ac i aros am gyflawnder yr amser i wared ei genedl. Y mae'n debig fod Arthur yn bod fel duw rhyfel y Celtiaid cyn i'r Cymry a'r Llydawiaid ymwahanu pan orfod iddynt ymladd, — y Cymry'n erbyn y Saeson, a'r Llydawiaid yn erbyn y Normaniaid, — daeth y duw rhyfel yn arwr cenedlaethol, yn ymladd yn erbyn ei elynion, ac yn syrthio trwy frad Modred ym Mrwydr Camlan. Y mae gan y Cymry a'r Llydawiaid er hynny Afallon, eu Harthur yn huno, a'u gobaith am atgyfodiad ysbryd eu cenedl. Y mae Arthur wedi deffro yng Nghymru, ond y mae Arthur Llydaw eto’n huno dan y traeth disglair acw.
Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/91
Gwedd