Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan newydd adael y dref, gwelsom" Galfaria" ar fin y ffordd ar ein llaw chwith. Tŵr cerrig ydyw, a chapel yn ei waelod, a grisiau yn troi am dano i'w ben. Ar furiau'r capel bychan gwelais amryw gerfiadau, — un yn dweyd i'r Calfaria hwn gael ei adeiladu trwy ras Duw, ac elusen ar Frythoniaid; un arall yn dweyd beth enillai'r hwn ddoi yma ar bererindod; a thrydydd yn moli'r groes fel arwydd i'r morwr deflid ar y lan ei fod ymhlith brodyr, boed hwy Saeson neu Spaenwyr neu Ffrancod, os gwelai hi. Gwelais rydd — gyfieithiad o frawddeg yn llyfr Thomas o'r Kempis,

"Ar saent a bellee mui ha ma ellent dious compagnunez an dud, hac a oa gwell gant ho en em antreteni gant Doue."

Yn ymyl hwn y mae pennill Llydewig, —

"Ar bed am eus, sivaos! caret,
An' am eus cavet ennan,
Nemet poen corff ha poen speret,
En ansaf o ran breman;
Choui nebquin, ma Doue, so mad,
Ha capabl d’hon chontantin."

Onid iaith a phrofiad Cymru ydyw? "Y byd, ysywaeth, garwyd gennyf fi, ni chefais ynddo namyn poen corff a phoen ysbryd, yr wyf yn ei gydnabod y pryd yma. Chwi'n unig (neb cyn), fy Nuw, sydd fâd a galluog i'n boddloni ni." Ar du allan y tŵr gwelsom lawer diareb Lydewig wedi ei hysgrifennu, —

"Gwell eo diski mab bihan
Efit dastum mado d'ehan." *
"Bugale Duw a d'le bepret,
Efel breudeur, en em garet." †
" Gna hirie ar fad a chelli,
Warchoaz martese e farfi." ‡
"Diou sceul a gas dann enf euz ar bed cristenien,
Unan ann elusen hag an eil ar beden " §

————————————————

*"Gwell yw dysgu mab bychan na hel cyfoeth iddo."
† "Plant (bugeiliaid) Duw a ddyle bob pryd, fel brodyr, fod yn ym garu."
‡"Gwna heddyw'r da (mâd) a elli, yfory hwyrach e ferwi."
§"Dwy ysgol enfyn y cristion i'r nef o'r byd, un yw elusen, ac yr ail yw gweddi."

————————————————