Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O ben y tŵr gwelem wlad fryniog dlos dan ei niwl; gwelem hefyd y ffordd hir ddigysgod yr oedd yn rhaid i ni ei cherdded, yn rhedeg fel saeth dros fryniau digoed tua'r de, tra rhedai ffordd Trebeurden a Phleumeur ohoni i'r de orllewin. Yr oedd yn boeth anioddefol i gerdded, ond caem aml i ysgwrs, ac aml i lymaid o ddwfr oer " â chroesaw. Gwelem wragedd yn gweu gwasgodau i'w plant, y gwasgodau gleision welais am gymaint o fechgyn Llydewig hyd lannau bau Aber Teifi. Pabyddion a dieithriaid oeddynt i mi yr adeg honno, ni chofiwn fod mam ofalus yn pryderu am bob un ohonynt, a'u bod fel ninnau'n meddu ered yn Rhagluniaeth a chariad at natur a hiraeth am eu gwlad.

Anawdd inni oedd gadael Lannion, a throi tua Morlaix. Cymeriad gwan roddai Mari i'r lle yr aem iddo, — "lle drwg, llawn o ferched meddwon, nid lle tawel duwiol fel Lannion." Ond gadael oedd raid, ac yr oedd tyrfa o forwyr, a'r gair * Caledonien' ar eu capiau, yn dod gyda ni. Yr oedd gan rai ohonynt wynebau eithaf meddylgar, a gwelsom lawer wyneb hardd, tebycach i wyneb offeiriad nac i wyneb morwr. Yroedd gwrid iach y wlad yn aros ar rai o'r wynebau; ondyr oedd llygaid y rhai hynaf wedi hagru, a'u hwynebau heb feddu'r meddylgarwch sy'n prydferthu wyneb y canol oed.

Teithiasom tua'r de drwy wlad fryniog. Yr oedd y diwrnod mor boeth fel y croesawem yr awel ddeuai i'r tren, er fod parddu ar ei hesgyll. Gwelem ffyrdd dyfnion wedi eu torri yn y ddaear fras, a'r gwenith yn cyhwfan uwch eu pennau'n gysgod iddynt. Yn y cysgod oer braf gwelem Lydawiaid yn bwyta eu ciniaw, — sosej a bara du; ac ni wyr neb beth yw ystyr — bara gwyn os na orfod iddo rywdro geisio cnoi a threulio bara du. Yn ein tren yr oedd dau newydd briodi. Gwyddem hynny oddiwrth y ffaith eu bod yn eu dillad goreu, oddiwrth eu dull yn gwenu ar ei gilydd, oddiwrth ei gwaith hi'n brwsio'r llwch oddiar ei gột, a'i waith ynte'n cynnig codi'r ffenestr i fyny