Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Swper yr Arglwydd; ac wrth weled y dagrau yn rhedeg dros lawer grudd adroddai fy nghyfaill emyn Morgan Jones, Trelech,—

"A'r dagrau ar eu gruddiau,
Wrth gofio angeu loes;
Gan ddechreu canu'n beraidd
Am rinwedd gwaed y groes."

Nid oedd nerth y Parch. William Lewis yn caniatau iddo bregethu. Er fod awydd angherddol ynddo am wneyd, eto, doethineb oedd cofio a gweithredu yn ol cyngor y meddyg. Cynorthwyodd gyda'r gweinyddiad o Swper yr Arglwydd y tro hwn yn y lle agos hwn i'r nefoedd.

Pregethasom mewn cyfarfod diolchgarwch am y cynhaeaf yn Jamaica; ac o'n cwmpas yn y set fawr yr oedd tua deuddeg o wahanol ffrwythau, fel rhyw flaenffrwyth cynyrchiol o ddaioni yr Arglwydd i'r ynys. Cymerasom oedfa yng nghapel y Bedyddwyr yn Queen Street, Kingston (gweinidog, y Parch W. Pratt, M.A.). Y mae hwn yn adeilad mawr iawn. Dywedwyd wrthym fod ynddo le i ddwy fil o addolwyr i eistedd. Buom yn pregethu yng nghapel yr Anibynwyr ym Mandeville (gweinidog, y Parch. James Watson), ac yn annerch cyfarfod cenhadol yn nghylch yr un fugeiliaeth.