Ar ol cyhoeddi darllenodd y gweinidog y" gwasanaeth cyfamodol." Cynhwysa y ffurf wasanaeth hon o waith Wesley yr hyfforddiant mwyaf dyrchafol a'r apeliadau mwyaf grymus at galon a chydwybod. "Gadewch i'r tair egwyddor hon sefydlu eu hunain yn eich calonnau; fod pethau tragwyddol yn fwy pwysfawr na phethau amser; fod yr anweledig bethau mor sicr a'r pethau a welir; ac mai ar eich dewisiad presennol yr ymddibyna eich tynged dragwyddol. Gwnewch eich dewisiad. Anturiwch gyda Christ-a rhoddwch eich hunain i fyny i Dduw yng Nghrist."
Darllennai y brawd yr ymadroddion hyn gydag awdurdod, a disgynnai ar ein clyw fel cenadwri o fyd arall. Wrth fwrw golwg yn ol ar yr hen flwyddyn a'i cholliadau, pruddaidd ddigon oedd ein hysbryd; ond teimlem awydd anturio yn hyderus gyda Meistr y tonnau am flwyddyn arall, faint bynnag ei throion a'i thywyllwch. Canai aderyn ar un o drawstiau nen y capel yn ystod y gwasanaeth difrifol; ond ni thynnodd sylw neb. Canai ei alaw unig yno; a bu yn foddion i'n hadgoffa o fanwl feddwl Tad am danom. Ni syrthiodd yr un o'r rhai hyn i'r ddaear heb yn wybod iddo Ef. Ar ol hyn gweinyddwyd yr ordinhad o