Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thraw gwelsom wyntyll fechan; ac o herwydd poethder yr hin ysgydwid hwynt a ni yn pregethu, er cael anadl o awyr ysgafn. Yr oedd hyn yn cydweddu mor hapus â'r holl amgylchoedd fel nas aflonyddai ddim ar lygad wrth graffu ar y gynulleidfa. Canent yn felus odiaeth; ac yr oedd llawer o fynd yn eu haddoliad.

A ni yn myned allan ar ol yr oedfa, safasant ar eu traed a tharawyd i ganu yn dyner God be with you 'til we meet again." Ysgydwasom law â rhai degau, a gwelsom fore mewn addewid y byddem yn cyfarfod o bob llwyth ac iaith a chenedl o gwmpas yr orsedd wen fawr heb wahaniaeth rhyngom—a'n cân yn un, lle na thyr ffarwel byth dros wefus un o honom. Y Sabboth canlynol yn nhref Bridgetown, Barbados, gofynwyd i mi bregethu gan weinidog o'r enw Mr. Payne—dyn hynaws, croenddu, o daldra angyffredin. Efe oedd yn porthi y praidd Wesleyaidd yn y Y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn dref. oedd, ac ar ddiwedd yr oedfa cyhoeddwyd cyfarfod gweddi dechreu y flwyddyn, undebol, rhwng y Morafiaid, y Presbyteriaid a'r Wesleyaid y cynhelid hwynt,—a'r cyntaf i gymeryd lle am bump o'r gloch y bore, y Llun canlynol.