Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel y cynydda goleuni Efengyl cilia y tywyllwch hyn; eto peth cyndyn yn marw yw pob ofergoeledd. Rhyw adlais ydyw o grefyddau teidiau y bobl hyn cyn eu caethgludo i India'r Gorllewin o ganolbarth Affrica—peth tebyg i grediniaeth yr hen Gymry yn eu dyn hysbys, y canwyllau cyrff, y goblinod, cwn annwn, a phob ffiloreg o'r fath. Y mae ochr well i'r genedl na hon-ei hochr grefyddol. Codwyd baner iddi, ac fel y daw caethion duon India dani, dont i fyny i safon uwch mewn gwareiddiad a moesoldeb.

Cawsom y fraint, braint werthfawr yn ein golwg, o bregethu amryw weithiau i gynulleidfaoedd mawrion o negroaid. Yn nhref Charlotte Amalie, fel y cyfeiriasom, y gwahoddwyd ni gyntaf i draethu y newyddion o Galfaria. Yng nghapel y Wesleyaid y bu hynny, ac yr oedd rhai cannoedd o wynebau duon o'n blaen. Gwrandawent yn astud; a chodai ambell "Amen" a "Praise the Lord" yn gynnes o'u calonnau. Yr oedd y mwyafrif mawr o wyr a gwragedd, a merched a bechgyn, yn ymddangos yn drwsiadus mewn dillad gwynion, a lliw rhuban eu hetiau yn amrywiol fel yr enfys. Yma a