Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr offeiriad yr obeahman-sydd yn gallu trosglwyddo yr ysbryd hwn i wrthrych; a lle bynnag y trig yr ysbryd bydd ei ofn ar y negro, a rhaid wrth swyn i wrthweithio ei ddylanwad. Ychydig cyn ein hymweliad â phlwyf yn Jamaica yr oedd y ddeddf wedi gosod ei llaw ar swynwr, ac wedi ei garcharu. Aeth rhyw druan oedd mewn gofid ato i ddweyd ei gŵyn a cheisio am ddiogelwch oddiwrth bob math o elynion. Cafodd swyn ganddo, yn gynwysedig o botel fechan yn llawn o gymysgedd, llwy de, pecyn bychan yn cynnwys darn o bren wedi ei losgi a'i wnio yn ofalus mewn cadach; a dwy marble o wydr amryliw fel y rhai y chwareuem â hwynt yn yr ysgol flynyddoedd yn ol. Yr oedd i osod ychydig ddyferynau o gynnwys y botel yn ei botes neu gawl, a'i yfed â'r llwy. Cadwai hynny bob haint a phla i ffwrdd. Yr oedd i gladdu y pecyn o dan riniog ei dŷ. Cadwai hynny bob. gelyn i ffwrdd, a byddai y marbles yn cadw y ddeddf a'i swyddogion o'i blaid. Trigai ysbryd gwarcheidiol yn y pethau hyn wedi dyfod o honynt drwy law y swynwr; a chredai y negro ofergoelus yn ei anffaeledigrwydd.