Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oddiar hynny hyd yn awr y mae cenhadaethau y Bedyddwyr, yr Anibynwyr, y Wesleyaid, y Morafiaid, Eglwys Loegr, a'r Presbyteriaid, wedi gwneyd gorchestwaith i'w dwyn at yr Iesu yn lluoedd. Y mae rhai o honynt yn bur oleuedig a dysgedig; ac wedi gweled cipdrem ar waith cenhadol yn eu mysg, yr oeddem yn teimlo yn ddiolchgar iawn i'r Nefoedd am gariad digonol yng nghalonnau dynion i aberthu er mwyn y Gwr fu ar y groes er eu dwyn i afael rhyddid llawer gwell hyd yn oed na rhyddid o gaethiwed corff.

Ymysg y mwyaf anwybodus, ffynna ofergoeliaeth dywell iawn. Y mae yr Obeahman ac Obeahism yn meddu dylanwad cryf neillduol ar eu meddyliau. Math o swyngyfaredd ydyw, a chredant fod gan yr hwn a'i gweithreda awdurdod anffaeledig ar dynged dynion; ac er fod y Llywodraeth Brydeinig yn eu gosod i lawr a llaw drom, erys y gred yn ddylanwad pwysig ar fywyd miloedd yn India'r Gorllewin.

Pan blannir gwinllan o aur-afalau cleddir ynddi ryw swyn; ac weithiau arch fechan fydd; ond nid yw o fawr pwys beth ydyw, y peth mawr ydyw fod ysbryd yr Obeah yn trigo yn y gwrthrych.