Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r rhai a weithient ar y tir ar Awst laf, 1840. Talwyd iawn o ugain miliwn i'r meistriaid am y caethion, a dydd rhyfedd oedd hwnnw y cyhoeddid eu cwbl ryddid arno. Clywsom hen wraig oedd yn bedwar ugain a phymtheg oed yn adrodd yr hanes. Pan darawodd y cloc hanner nos ar Awst laf, clywyd gwaedd orfoleddus o gwrr i gwrr i'r wlad. "Free, free, free," meddent, a hynny heb wybod ystyr rhyddid i'r graddau lleiaf; eithr y mae pob dyn yn pasio, fel Abram dros ei etifeddiaeth, heb wybod hynny cyn ei chael mewn gwirionedd.

Nid oedd enwau arnynt. Elai llaweroedd o honynt wrth eu rhif. Cymerent enw y meistr yn aml os byddai yn garedig wrthynt; brydiau eraill enwau Beiblaidd, ac enwau y cenhadon. Felly ceid cryn lawer o amrywiaeth, heb son am wreiddioldeb; ac nid syn gennym weled yr enw Angelina John Baptist ar ddynes ym Montserrat, a negro yn Jamaica o'r enw Jones. Dywedodd yr hen wraig a adroddai hanes y rhyddhad, mai y gwahaniaeth mawr rhwng bore Awst laf a phob bore cyn hynny, oedd na chanodd y shellhorn i'w galw at eu gorchwyl.