Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrthwynebol i egwyddorion y cyfansoddiad Prydeinig a'r grefydd Gristionogol, ac y dylid ei diddymu yn raddol yn nhiriogaethau Prydain. Ni phasiwyd y cynhygiad hwn, ond mabwysiadwyd penderfyniad yn cynnwys holl ysbryd cynygiad Mr. Buxton. Aeth y Llywodraeth mor bell ar ol hyn ag annog y Trefedigaethau i wellhau sefyllfa y caethwas, a pharodd hyn gryn dwrw ymysg y meistriaid. Ni chymerasant yr anogaeth yn yr ysbryd goreu; eithr lleddfwyd llawer ar y safle mewn canlyniad.

Yn 1833 gosododd Mr. Stanley Fesur gerbron Ty y Cyffredin er diddymu caethwasanaeth. Pasiodd yn bur hawdd, ac aeth y drydedd waith drwy Dŷ yr Arglwyddi ar y 19eg o Awst, 1833. Bu farw Wilberforce dair wythnos cyn hyn; ond yr oedd wedi byw yn ddigon hir i weled baner buddugoliaeth ar y maes a gymerodd. Yn ol Mesur Mr. Stanley, a ddaeth yn ddeddf ar Awst laf, 1834, yr oedd pob caethwas ag oedd dros chwech oed i gael ei osod yn egwyddor-was yng ngwasanaeth yr hwn a'i piodd. Yr oedd yr egwyddor-wasanaeth hon i orffen ar Awst laf, 1838, ynglŷn â'r crefftwyr a'r rhai a weithient yn y tai; ac mewn perthynas