Yn Barbados gwahoddwyd ni gan y Parch. C. T. Oehler, gweinidog Eglwys y Morafiaid, i bregethu yn ei gapel. Yr oedd yno gynhulliad o dros chwe chant o addolwyr cynesgalon, a hawdd iawn pregethu iddynt. Ar ddiwedd yr oedfa cyhoeddwyd y byddent yn canu yr emyn weddi a arferent dros eu cyfeillion ar y môr yn eu cyfarfod eglwysig y nos Fercher ddilynol, a chan droi atom, ebe'r gweindog, "Ym mha le bynnag y byddwch am saith o'r gloch y noson honno, cofiwch y bydd cyfeillion yma wrth orsedd gras yn cofio am danoch. Byddwn yn canu yr emyn Saesneg,—
Eternal Father, strong to save,
Whose arm hath bound the restless wave,
Who bidd'st the mighty ocean deep
It's own appointed limits keep;
O hear us, when we cry to Thee,
For those in peril on the sea."
Bu hyn yn foddion i roddi lle dyfnach yn ein calon nag erioed i ganlynwyr John Hus. Nid oes enwad ar y ddaear a sel fwy brwd dros y cenhadaethau tramor na'r Morafiaid. Gosodant bwys mawr ar addysg; ac yn ein ymddiddan ag esgob India'r Gorllewin, holodd lawer ar fy