nghyfaill am Ysgolion Sabbothol Cymru, a'u gwaith, a'u dosbarthiadau i rai mewn oed.
Y mae gan y Bedyddwyr Goleg Duwinyddol-Coleg Calabar yn Kingston, Jamaica o dan ofal Cymro-y prifathraw Arthur James, B.A. Yr oedd adeiladau newyddion i'r sefydliad yn barod i'w hagor; ac edrychai y llywydd arnynt fel sylweddoliad gobeithion llawer o flynyddoedd.
Y mae yn yr un ddinas ddau goleg i barotoi athrawon yr ysgolion elfennol-y Mico College i fechgyn a'r Shortwood College i ferched. Buom ar ymweliad a'r olaf; ac yr oedd yno chwech a deugain o fyfyrwyr. Arosant yn y coleg dair blynedd, ac yn ystod y flwyddyn gyntaf gwnant holl waith y sefydliad mewn glanhau a golchi. Rhoddir hyn o ddyledswydd arnynt er mwyn iddynt gyfarwyddo a chadw ty ac i fod yn foddion i ddysgu eraill, am yr edrychir ar yr ysgolion a'u hathrawon fel canolbwyntiau addysg a moddion derchafol ymhob cyfeiriad da. Y tu ol i'r coleg hwn safai cartref i blant amddifaid, yn fechgyn a merched; a phan y cerddem o gwmpas yr oeddynt yn brysur yn plethu hetiau gwellt. Rhoddir addysg