Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grefyddol yn yr holl ysgolion, a synwyd ni yn fawr wrth wybodaeth y plant o brif ddigwyddiadau yr Hen Destament a'r Newydd.

A ni wedi gosod ein camera ar waelod bryncyn ar yr hwn y safai ysgol ddyddiol, un prydnawn, a phob peth yn barod i dynu darlun y plant pan redent o'r ysgol, meddyliasom am debygrwydd rhyfedd y darnau gwledig o Jamaica i'n gwlad ni. Yr oedd y trofeydd a'r cloddiau cerrig yn union yr un fath a phe buasem yng nghanol sir Feirionnydd. Pe buasai y dderwen yn lle y balmwydden, y pren afalau yn lle y pren orenau; a'r cyfnewidiadau eraill yn ychydig—dyma wedi hynny wlad debyg iawn i hen wlad y bryniau. A ni yn myfyrio fel hyn dyma sain hyfryd yr hen alaw "Ar hyd y nos" yn taro ar ein clust.

"Beth yw hyn?" meddem, a dechreuodd ein calon guro yn gyflymach. Distawodd yr alaw. Rhedodd y cantorion allan. Tynnais eu darlum, ac ymholais am yr alaw, ac ymddengys eu bod yn canu emynnau ar hen alawon ein gwlad, a chawsom addewid am glywed "Rhyfelgyrch Gwyr Harlech" y tro nesaf. Eithr y mae miloedd o filldiroedd o fôr