Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyngom, a'r tro nesaf yn debyg o ddod. byth.

Y mae gan y negro lawer o ddiarhebion tarawiadol iawn. Dyma rai fel y dywedir hwynt yn Jamaica,-"Dog behind is dog; dog before is Mr. dog;" "Nebar call alligator big mouth 'til you cross ribar; "Ribar bottom never say sun hot; " Sojer's blood, but general's name.'

Nid yw yn credu llawer mewn gwelliantau amaethyddol. "Goglais y tir " yw ei ddesgrifiad o amaethu. "Duw wnaeth y ddaear ac nis gall dyn ei gwella ag achles," meddai yn bur awdurdodol. Y mae natur fel pe bai yn afradlon yng ngwasgariad o'i thrugareddau. Tyf pob dim heb fawr o lafur na gofal; a cheir cnwd ar ol cnwd yn ystod yr un flwyddyn.

Paradwys i ddynion diog yw y gwledydd hyn. Nid yw tymhorau y flwyddyn yn galw am egni. 'Does yno yr un gaeaf yn galw am ymdrech i lanw ysguboriau â chnydau haf. Y wraig a'r ferch yw y gweithwyr caletaf.

Cenedl yn dringo ydyw. Nid yw eto wedi meddiannu gyda llwyredd yr hyn a ddaeth iddi yn rhyddhad y caethion;