Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eithr a'r dyn gwyn yn genhadwr ati, y feddwl iddi, ac yn arweinydd arni, daw yn uwch, a chyrhaedda ogoniant yn y man. Erys dau beth byth ynnom wedi ymgydnabyddu rhyw gymaint a'r negro, —y mae ein ffydd yng ngallu yr efengyl i godi dyn yn gryfach nag erioed; a gallwn weddio"deled Dy deyrnas gyda mwy o aiddgarwch na chynt wedi gweled gras wrth ei orchwyl yn ynysoedd y dyn du.