Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IX. TROI ADREF.

"Mae'n werth troi'n alltud ambell dro,
A mynd o Gymru fach ymhell.
Er mwyn cael dod i Gymru'n ol,
A medru caru Cymru'n well."
EIFION WYN.

MORDWYASOM a'n gwynebau ar Loegr yn Kingston, Jamaica. Ar ein taith i lawr gyda ffordd haearn y llywodraeth gwelsom gannoedd o bobl yn y gorsafoedd yn gwerthu pob math o ffrwythau; a buasem wedi prynnu llwyth cert o honynt pe baem heb wybod na allem eu cario adref yn eu haddfedrwydd. Yr oedd mordaith o bum mil o filltiroedd yn rhy faith i'r orenau, y tangerine, a'r banana addfed.

Wedi gosod ein heiddo ar y llong aethom allan i fin y môr i gasglu cregin. Daethom a thua dwsin yn ol a gosodasom hwynt ar y ffenestr, a mawr oedd ein syndod bore drannoeth pan welsom nad oedd yno yr un. Yr oeddynt yn cerdded o gwmpas i'r ystafell yn sionc, neu yn fwy cywir yr oedd eu preswylwyr yn eu cario ar eu cefnau ar draws y 'stafell. Nid