Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddym wedi dychmygu fod creadur yn byw ynddynt wrth eu gweled yn y môr, a chryn helynt gawsom gan arogl y cyrff wedi iddynt drengu.

Codwyd ager ar ganol dydd; ac yn swn y seindorf yn chwareu-"Should auld acquaintance be forgot," a banllefau a chwifiad cadachau a hetiau, troisom ein cefnau ar Jamaica a rhedwyd yn araf gydag ochr y ddinas sydd bellach yn adfail trwy ddifrod y ddaeargryn. Mewn ychydig oriau nid oedd ond copa tal y Mynyddoedd Gleision yn y golwg o'r ynys hon sydd fel perl ym Moroedd y Gorllewin.

Galwyd yn Trinidad a Barbados; ac ar ganol nos rhwng Sadwrn a Sul gwaeddai un o'r swyddogion-"All for the shore, hurry up," ac wele yr oeddem ar y Werydd agored pan wawriodd dydd yr Arglwydd.

Ein prif ddyddordeb ar y ffordd yn ol oedd edrych ar drysorau ein gilydd: a rhyfedd ac ofnadwy oedd casgliadau rhai o honom o gywrainbethau gwlad ein hymdaith. Gan un yr oedd ysgerbydau seirff ac ysgorpionau ac ymlusgiaid; gan arall wddfdlysau a braich dlysau wedi eu