Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneyd o had y mimosa, &c.; a chan arall ddail a blodau prydferth.

Cawsom olwg ar Corvo a Flores, dwy o ynysoedd yr Azores, ar y ffordd yn ol. Bu y môr yn dawel; eithr teimlem yr hin yn oeri bob dydd. Gwawriodd arnom, ymhell cyn i'n llygaid syrthio ar dir Lloegr, mai gaeaf oedd hi eto yng Nghymru. Daeth tyrau Poldu i'r golwg yn y bore, y rhai hyn yng Nghernyw sydd yn ffurfio gorsaf y pellebyr diwifrau ar eithaf tir Prydain.

Yn y prydnawn pasiwyd goleudy Eddystone—ei neges ef ydyw rhoddi goleuni ac achub bywyd. Y mae goleu ar y graig hon oddiar 1700; ac ysgubwyd y ty cyntaf i ffwrdd gan ystorm yn 1703, ac un peth sydd ynglyn a'r dinystr hwn oedd fod y cynllunydd Winstanley yn marw ynddo. Aeth yn ysglyfaeth i'r elfennau dig ei hunan gyda'r goleudy a gynlluniodd. Wedi agor ein heiddo yn Plymouth ger bron yr awdurdodau, dyma ni yn y tren ar y ffordd adref, a'r hyn oedd uchaf yn ein calon oedd teimlad o ddiolchgarwch, am drugareddau a welodd ein llygaid, ac am drugareddau fuont yn rhan i ni, na welsom o honynt.