Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae amgylchiadau yn myned trwom ninnau, ac y mae eu dylanwad yn aros. Ni cherddodd yr un o honynt dros deimlad nac ysbryd heb adael ol ei droed i aros. Erys dyddiau digwmwl pen y mynyddoedd y dyddiau y buom yn cydchwerthin a'r awelon; a'r niwloedd obry yn y glyn. Erys dyddiau y dyffrynnoedd hefyd-dyddiau a gwyneb eu haul dan orchudd. Erys gair caredig a gwên cyfaill; ac erys siomedigaethau. Aiff gwyrddlesni gwanwyn a llwydni gaeaf i mewn i ysbryd dyn, ac erys sawr blodau ac oerni y llwydrew mewn bywyd; ac yma yn y cornel teimlwn wrth edrych yn ol fod y daith yn aros-a rhai darnau o honi yn pwyso yn drymach na'u gilydd ar feddwl a chalon, a rhai darnau yn ymddangos yn dra gwahanol i'r hyn oeddynt.

Yr hyn a welsom â'n llygaid ac a glywodd ein clustiau, a geisiasom gyfleu i'r darllennydd. Ni honnaf fod yn awdurdod ar ddim. Yr unig amcan gennyf yw ceisio trosglwyddo cyfran fechan o'r mwynhad a'r diwylliant ysbryd a gawsom ar ein siwrne a thrwyddi.

Ni fuom yn y Bahamas, yn British Guiana, na Honduras-gwledydd o dan