Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

faner Prydain. Y maent hwy yn cael eu hystyried yn rhan o India'r Gorllewin; eithr nid oedd yr un o'r lleoedd yma ar ein rhaglen, ac ni fu ein traed ar eu daear. Ni fuom yn Cuba na Haiti. Y maent hwythau hefyd o fewn terfynau y wlad. Gwlad fynyddig yw Cuba. mae Pico del Tarquino-mynydd yn nwyreinbarth yr ynys, yn 8,300 o droedfeddi o uchder. Ysguba gwyntoedd ystormus iawn dros Cuba fel ei chymydoges Jamaica, yn bur aml; ac y mae daeargrynfâu yn gyffredin. Bu y dwymyn felen yn haint peryglus a ysgubai filoedd o'r trigolion i dragwyddoldeb bob blwyddyn; eithr yn ystod y saith mlynedd ddiweddaf y mae atalfa ar ei galanas.

Daeth yr Yspaniaid i gartrefu i'r ynys hon yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Disgynnai môr ladron ar ei glannau yn aml aml yn ystod y can mlynedd nesaf. Tylwyth rhyfedd iawn oedd y rhai hyn; ac ymysg y mwyaf adnabyddus o honynt, fel cyfeiriwyd o'r blaen, yr oedd y Cymro Syr Henry Morgan. "Buccaneers" yw yr enw roddir arnynt mewn hanes; ac enw ar yr Ewropeaid oedd yn byw ar hela gwartheg