Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

corniog gwylltion Haiti oedd hwnnw i ddechreu. O dipyn i dipyn daeth yn enw ar helwyr cyfoeth yn y wlad honno, a rhai a sicrhaent gyfoeth â min y cleddyf a thrwy drais a chyfrwysdra. Ni edrychid ar eu gwaith yn nydd eu rhwysg fel peth isel wael; a bu eu hymdrafodaeth greulawn yn gryd i fagu rhai a folir mewn hanes am eu dewrder. Cyfoeth a gallu Spaen oedd eu hysglyfaeth pennaf; a disgynent yn gwmnioedd fel eryrod ar ddinas a thref ar ynysoedd y moroedd hyn yn yr ail ganrif ar bymtheg. Yspeilient, lladdent, a llosgent; a dygent yn aml fawr elw i'w gwlad trwy eu hysglyfaeth.

Yr oedd yr Yspaen, neu o leiaf, teyrnas Castile, yn hawlio perchenogaeth o'r oll o'r America oherwydd mai ar draul y deyrnas honno y bu i Golumbus ymgymeryd â'i fordaith gyntaf o ddarganfyddiad. Yr unig eithriad i hyn oedd fod Brazil yn perthyn i'r Portugeaid. Cadarnhaodd y Pab Alexander VI. hynny drwy weithred, Selwarant y Rhodd (Bull of Donation); ac y mae gennym ryw syniad am sicrwydd eu hawl yn eu hetifeddiaeth pan gofiom fod gwledydd