Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ewrop oedd yn ffinio a'r môr dan awdurdod ysbrydol y Babaeth ar y pryd. Yr oedd Yspaen yn gwylio ei meddiant yn eiddigeddus iawn. Yn ystod bywyd y frenhines Isabel, nid hawdd hyd yn oed i Yspaniad y tu allan i deyrnas Castile oedd cael lle ar long fyddai yn hwylio i'r Gorllewin.

Deffrodd cywreinrwydd y Cyfandir ar ddarganfyddiad America. Danfon- odd y Ffrancod a'r Saeson longau yno i edrych hynt pethau, ac i fasnachu. Dywed Burney (1816) fod yr Yspaniaid, os yn abl i drechu y llongau hyn, yn cym- eryd y morwyr yn garcharorion. Ymyr- wyr oeddynt yn eu syniad hwy; ac nid hir y bu'r Sais a'r Ffrancwr cyn talu'r pwyth. Masnachent à thrigolion y wlad, a dywedai y gwledydd wrth yr Yspaen nad oedd yr ymyrwyr yn gweithredu fel deiliaid unrhyw dywysog, eithr ar eu hawdurdod eu hun. Dyma'r amgylchiadau dan y rhai yr agorwyd y bennod ryfedd hon yn hanes môr a glannau India'r Gorllewin. Ar ol y rhyfel rhwng Spaen a'r Unol Daleithiau, gweriniaeth yw ffurf lywodraeth Cuba. Y mae yno lywydd, is-lyw-