Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydd, Senedd, a Thy Cynrychiolwyr: Havana yw y brif ddinas, ac fel yr awgryma yr enw y mae yno hafan ddymunol. Dinasoedd ereill ydyw Matanzas, Santiago, a Cienfuegos. Ni cheir harbwr o bwys ar yr ochr ddwyreiniol i'r ynysoedd, gan fod y trafnid-wyntoedd yn gyrru y graean i'r lan lle bynnag y chwythant, ac nid hir y bydd unrhyw agoriad i'r môr heb ei gau yng ngwyneb y gwyntoedd hyn.

Enwau eraill ar Haiti yw Santo Domingo ac Hispaniola. Y mae ar yr ynys fynydd, Loma Tina, sydd yn esgyn 10,000 o droedfeddi yn uwch na'r môr. Sefydlwyd trefedigaeth Ffrengig ar yr ynys yn 1640. Negroaid yw mwyafrif mawr y trigolion ar ochr orllewinol yr ynys.

Cawsant eu rhyddid o gaethiwed yn 1794; eithr yn nechreu y ganrif o'r blaen gwnaeth Napoleon Bonaparte ymgais i'w hail gaethiwo. Achosodd hyn wrthryfel tost. Taflwyd iau y Ffrancod i ffwrdd, a sefydlwyd gweriniaeth negroaidd yn 1804. Y mae yno gyngor cenhedlaethol; a deil y llywydd ei swydd am saith mlynedd.