Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ochr ddwyreiniol yr ynys y mae gweriniaeth arall-gweriniaeth o ddynion melyngroen (Mulatto). Yr oedd y bobl hyn o dan lywodraeth yr Yspaen hyd 1844.

Gelwir gweriniaeth y negro yn Haiti, ac eiddo y llall yn Santo Domingo, neu weriniaeth Dominica.

Cododd llawer cwestiwn i'n meddwl nad oedd lef yn ateb iddo. A ni yn pasio ty ar gyffiniau dinas Kingston, Jamaica, gwelsom yr enw "Rhianfa." ar byst ei byrth. Pwy oedd y Cymro a fu yn byw o dan ei nenbren nis gwn. Bum yn yr un ystafell a dau fachgen-swyddogion yn y fyddin Brydeinig a adwaenwn yn nyddiau bachgendod, a hynny heb feddwl ac heb wybod dim am eu bodolaeth yn y lle. Bu rhai yn ein holi ar ol dod adref am ardaloedd yn India'r Gorllewin. Yr oedd rhai anwyl iddynt yn gorwedd yno; ac erys y wlad yn hoff iddynt ar gyfrif y llwch sydd wedi cysegru ei ddaear. Trwy garedigrwydd y llên-garwr adnabyddus, Mr. J. H. Davies, M.A., o Goleg y Brifysgol, yn Aberystwyth, gosodwyd yn fy llaw o lyfrgell y Cwrt Mawr,