Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ceir cyfrolau lawer yn dwyn ei enw. Credir mai yr un oedd efe a William De Briten yr awdwr. Yr oedd rhywrai yn rhagfarnllyd yn erbyn trigolion yr ynysoedd, gan dybio nad oedd y wlad ond noddfa i ddynion oedd yn fethiant o ran amgylchiadau a moesau. Dywed John Davies fod yno laweroedd o deuluoedd o barchusrwydd yn byw yn dda ac vn ofni Duw. Cydnabyddir un—y Tad Raymond, a fu yn byw yn Dominica, fel un a roddodd lawer o gynorthwy i sicrhau cywirdeb yr hanes, ac a drefnodd yr Eirlechres Garibbeaidd. Ymesgusoda y cyfieithydd dros roddi rhai enwau ar blanhigion, bwystfilod, adar, pysgod, &c., a ddichon fod yn anadnabyddus i rai oedd ar y pryd yn byw yn y wlad hon o hen breswylwyr yr ynysoedd, am fod mwyafrif preswylwyr Llundain y gallai efe ymgynghori â hwynt wedi symud i'r wlad o'r ddinas oherwydd toriad allan yr Haint Mawr. Dechreua gyda golwg gyffredinol ar bethau. Yn y bennod gyntaf cawn,—

"Nid yw y gwres yn fwy yn y parthau hyn nag ydyw yn Ffrainc yng Ngorffennaf ac Awst; a thrwy ofal neillduol Rhagluniaeth Ddwyfol cyfyd dwyreinwynt tyner sydd yn aml yn parhau hyd bedwar yn y prydnawn, a adlonna yr