Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awyr ac a ddarostynga drymder y gwres. Nid yw byth yn oer yn y Caribbies; ac ni welwyd ià erioed yn y parthau hynny."

"All things are clad in a perpetual green,
And winter only in the snow of lilies seen."

Rhydd y llyfr cyntaf fanylion cyffredinol am yr oll o'r ynysoedd; a sylwn wrth ddarllen y sonnir yn fynych am fanteision crefyddol yr ynysoedd. Y Jesuitiaid a'r Carmeliaid, dwy sect Babyddol, sydd yn cael mwyaf o sylw. Ca amddiffynfeydd milwrol y gwahanol drefydd gryn le hefyd. Enwir y coedydd at wasanaeth seiri; a'r planhigion i ddibenion physigwrol.

Pan ddeuir i fyd cregyn y môr, cawn gryn lawer o'r barddonol. Y mae y gragen sydd yn dwyn perlau, meddai'r awdwr, wedi arfer codi i wyneb y dŵr ar godiad yr haul. Yna ymagora led y pen, a phan yn agor disgynna gwlith arni a thry hithau y gwlith yn berlyn. Y mae yn ein meddiant y gragen gerddorol. Yn groes iddi ceir rhywbeth tebyg i'r hen nodiant yn llinellau ac yn nodau. Wrth drin hon dywed yr awdwr a gyfieithir gan John Davies fod rhywun wedi cael cragen a cherddoriaeth