Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddigon perffaith i'w chanu. A yn ei flaen i ddweyd, os oes gan fydoedd y ffurfafen fel y dywedodd Pythagoras eu cynghanedd, melusder yr hwn nis gellir ei glywed ar y ddaear oherwydd y dadwrdd; os oes gan yr awyr gân o big yr adar hedant drwyddi; os ydyw dyn wedi dyfeisio math o gerddoriaeth sydd trwy y glust yn adgreu y galon; nid yw ond teg i'r môr sydd yn drafferthus gan donnau i gael cerddoriaeth a cherddorion i ddathlu clodydd ei Grewr penarglwyddiaethol.

Ni chofnoda hanes yr un llyfrithiad o eiddo un o fynyddoedd tanllyd y wlad; eithr sonia am y ddaeargryn; a cheir hanes ymweliad ofnadwy corwyntoedd a'r ynysoedd.

"Yr hyn sydd i'w ofni fwyaf ydyw cydfradwriaeth gyffredinol o'r holl wyntoedd sydd yn myned o gylch y cwmpawd mewn yspaid o bedair awr ar hugain, neu weithiau mewn llai. Dyma yr hyn a elwir yn rhuthrwynt (hurricane); a digwydda yn gyffredin ym misoedd Gorffennaf, Awst, a Medi. Ar adegau eraill nid oes eu hofn."

O flaen y storm desgrifia yr adar yn disgyn i'r gwastadeddau o'r mynyddoedd; a chyn y drychin daw dafnau o wlaw sydd mor hallt a dŵr y môr. Cy-