Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

merodd hyn le yn 1599; ac wrth son am hyn cofia y cyfieithydd am storm ymwelodd a Lloegr yn adeg marwolaeth Oliver Cromwell ("the late usurper Oliver Crom- well"). Nid oedd ochr waethaf a thywyllaf y gaeth fasnach wedi taro awdwr y llyfr.

"O berthynas i'r caethion, a'r cyfryw ag sydd weision gwastadol, y rhai a wasanaethant yn gyffredin yn yr ynysoedd hyn, Affricaniaid ydynt yn wreiddiol, a dygir hwynt yno o'r wlad o gwmpas Cap Vert, teyrnas Angola, a phorthladdoedd eraill sydd ar draethau y rhannau hynny o'r byd; lle y gwerthir ac y prynir hwynt yn yr un dull a da corniog mewn lleoedd eraill. O'r rhai hyn, y mae rhai wedi eu darostwng dan yr angenrheidrwydd o werthu eu hunain, a myned i gaethiwed parhaus, hwynthwy a'u plant, er ysgoi newyn, oherwydd ym mlynyddoedd diffrwythdra, a ddigwyddant yn fynych, yn enwedig pan fydd ceiliogod y rhedyn, sydd fel cymylau yn gwasgar eu hunain dros yr holl wlad, wedi difa holl ffrwythau y ddaear, dygir hwynt i'r fath eithaf anfeddyginiaethol, fel yr ymddarostyngant i'r telerau mwyaf llymdost yn y byd, ar yr amod o gael eu cadw rhag newynu."

Cyfeiria at rieni yn gwerthu eu plant; ac am werthiant carcharorion gymerwyd mewn rhyfel gan fân dywysogion. Gwerthid hwynt i'r Portugiaid a chen-