Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hedloedd eraill am haearn (oedd mor werthfawr yn eu golwg ag aur), am win, a brandi, a gwirod, a dillad.

Wedi cyrraedd yr ynysoedd, ail werthid hwynt, a rhoddid am danynt bymtheg can pwys, neu un ar bymtheg, o fyglys, ac os syrthiai caethwas i law meistr tyner gwell fyddai ganddo ei gaethiwed na'r rhyddid blaenorol.

Dywed fod y negro yn agored i ddy- lanwadau; ac wedi derbyn Cristionogaeth nid ysgogir hwynt oddiwrthi.Y maent yn hoff iawn o gerddoriaeth. Os bydd gan ddyn ddeuddeg caethwas ystyrrir ef yn ddyn cyfoethog. Rhydd fanylion helaeth am eu harferion, ac y mae yn siarad yn garedig am y negro du. Dyddorol ydyw cyfeiriadau y gyfrol at iaith y Caribbiaid. Nid oes ganddynt eiriau am aeaf, ia, cenllysg, ac eira; ac nid oes air ganddynt am ddrygau a phechodau. Rhifant hyd at ugain-rhif bysedd eu dwylaw a'u traed, a phan eir dros ben hyn cyfeiriant at wallt eu pen, neu dywod y môr.

Credant yn anfarwoldeb yr enaid. Erys sefyllfa wych y gwrol mewn rhyfel, -ca gaethion i'w wasanaethu a hyfryd-