Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wch mawr. Ni chlywsom ni am lawer o bethau y sonnir am danynt yma; eithr y mae goleuni dwy ganrif a hanner wedi llewyrchu ar yr ynysoedd hyn oddiar cyfansoddiad y llyfr hynod hwn.

Wrth dramwy ar hyd yr ynysoedd, gwelem feddau yn ymyl llawer o dai. Claddent eu meirw flynyddoedd yn ol (ac nid yw yr arferiad wedi llwyr ddiflannu eto), yn ymyl y tyddyn. Rhaid fod y gred o undeb y teulu, er marw, wrth wraidd y drychfeddwl hwn mewn rhyw ffurf. Nid yw ein rhai anwyl yn gadael y teulu. Yr oedd yr eneth fach anfarwolodd Wordsworth, a ddadleuai mai saith oeddent hwy, yn hollol yn ei lle.

Ond er mor ddyddorol yw edrych yn ol, rhaid i mi derfynu. Er mynd ar aden dychymyg i India'r Gorllewin i ail anadlu yr awelon balmaidd, adgofir fi mai dychymyg ydyw mwyach, oherwydd bryniau Cymru welaf, ac y mae Cader Idris yn wyn dan glog o eira yng nghanol Ebrill.


CAERNARFON :

CYHOEDDEDIG GAN GWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG CYF

SWYDDFA "CYMRU."