Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trwy India'r Gorllewin.

I. GADAEL CARTREF.

"Ar ddyfroedd fyrdd, ei efryd
Wna bwyntio yno o hyd."
—ISLWYN.

AR yr wythfed o Ragfyr, 1903, gadawodd dau honom—y Parch. William Lewis o Bontypridd, a minnau, y wlad a'n magodd; ac yr oedd ein gwyneb ar diriogaeth gostwng haul yn India'r Gorllewin. Yr oedd fy nghyfaill yn hen deithiwr profiadol. lechweddau yr Alpau. Gwyddai am Chwedleuai am ei brofiad yng ngwlad y dyn du. Bu ar hyd ystrydoedd rhai o brif drefydd Cape