Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Colony a Natal, yn Delagoa Bay, yn ninas hynafol Rhufain a dinasoedd eraill yr Eidal; ac yn ymlwybro mewn ymchwil am iechyd yn Teneriffe, Orotava, Las Palmas a Madeira. Gŵr dibrofiad oeddwn innau am y môr. Gwyddwn fwy am fynyddoedd a llynnau ac afonydd; ac o dawelwch aelwyd y bum hyd hynny yn gwrando ar anthem y gwynt. Canasom yn iach i'r rhai a garem; ac ar ol ychydig ddistawrwydd, a rhywbeth yn poeni y gwddf heblaw anwyd, dechreuasom ymborthi mewn dychymyg ar ramant yr hyn oedd o'n blaen.

Daeth teimlad pererin drosof. Ceisio gwlad yr oeddwn, ac wrth feddwl am dani teimlwn ei swyn, a chyn pen awr sylweddolwn fod pob modfedd o honof yn deith- iwr. Taflai y profiadau newyddion eu cysgodau drosom, a hyfryd oedd peraroglau y gwledydd draw. Wedi breuddwydio am noson yn Llundain, cawsom ein hunain yn fore drannoeth yng ngorsaf Waterloo yng nghymdeithas ein cyd-deithwyr. A rhyfedd y gymysgedd oedd yno. Clywsom bedair neu bump o wahanol ieithoedd; ac amrywiol iawn oedd lliw croen y rhai fyddai gyda ni rhwng ystlysau y llong