Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bellach am yn agos i bythefnos. Yr oedd llythyrau y Nadolig yn myned allan gyda ni, a syn oedd gweled y fath gruglwyth o sypynau. Pa sawl newydd prudd gynhwysent? I sawl mynwes y dygent obaith gwyn? Byddent yn cael eu darllen mewn cabanau ar lan afonydd De America—yn swn yr Orinoco a'r Magdalena; mewn plasdai yng nghysgod palmwydd yn Jamaica a Trinidad; mewn ffermdai unig yn Antigua a Dominica; ac yn masnachdai Kingston a Caracas. Rhwydd hynt i'w neges, a'n dymuniad oedd am i bob sypyn a phob llythyr ddwyn y ddaear yn agosach i'r nef ar ddydd pen blwydd Gwaredwr. Yr oedd yno dyrfa o bobl ieuainc o drefedigaethau Prydeinig y gorllewin yn dychwelyd adref—rhai am ysbaid a rhai am byth o golegau ac ysgolion Lloegr. Yno hefyd yr oedd y peirianydd ieuanc ar ei ffordd i weithiau copr Bolivia, ac i chwilio am aur ac arian yn Venezuela. Chwilio am iechyd yn awelon y Werydd yr oedd rhai, ac ymawyddai eraill am bleser ac anturiaeth.

Prynasom bapur newydd, a dau beth yn unig o'i gynnwys sydd yn aros ar ein meddwl. Yr oedd Herbert Spencer wedi