Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

marw, ac yr oedd proffwydoliaeth am ystorm yng ngholofnau y tywydd. Ar ol taith bleserus cyrhaeddwyd Southampton, a chawsom ein hunain a'n heiddo ar fyrr o dro ar ddec llydan yr agerlong Atrato, llestr braf perthynol i linell y Royal Mail Steam Packet Co.

Danghoswyd i ni ein ystafell a'n gwely cul ynddi ar ochr aswy i'r llestr; ac aethom o gwmpas er cynefino a'r byd oedd yn derfyn i ni ar y donn aflonydd am ysbaid bellach. Yr oedd yno ugeiniau wrth yr un neges a ninnau,—rhai a'u genau yn llawn chwerthin yn cerdded yn frysiog ol a blaen, ac ambell un yn welw a thrist a deigryn ar olchi dros y geulan. Dyma'r capten! Gwr hynaws ei wedd ydyw, ac awdurdod ym mhob ysgogiad, a'i lygad yn disgyn am y waith gyntaf ar y rhai fyddai dan ei ofal ar y fordaith. Efe fydd ein pen—llywydd, a sicrhawyd ni gan ei wyneb y byddem yn gartrefol yn ei deyrnas. Cerddai yn hamddenol o gwmpas am rai munudau; ond yn sydyn dyna gloch yn canu. Rhedai swyddog ol a blaen. Brysiai y rhai a'n hebryngasant draws y fynedfa. Ar bob llaw clywid cyfarchiadau am daith hapus a rhwydd