Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynt, ac yma a thraw gwelid ffarwel ddistaw. Nis gall y galon ddweyd ei phethau dyfnaf, ac ni fynega anwyldeb ei chyfrinion mewn geiriau. Canodd y gloch eil waith—a'r drydedd waith. Codwyd y rhodfa. Datodwyd y rhaffau. Symudodd y peiriannau, ac, wele, yr oeddem wedi cychwyn. Chwifiwyd cadachau gwynion oddiar y cei, a'r peth olaf a welsom ni oedd cap coch Cymro ieuanc yn troi, a llais yn yr hen aeg yn gwaeddi—"Llwyddiant i'r daith."

Bob ochr gwelsom longau Affrica a China. Dadlwytho eu trysorau yr oedd rhai, a pharotoi i daith yr oedd eraill.

Hyfryd oedd Southampton Water a'r Solent. Meddem wrthym ein hunain,—"Peth braf ydyw morio." Eithr ni chofiem ar y pryd ein bod rhwng y glannau a chysgod ynys ar yr aswy, a Hampshire a'i choedwig ar y ddeheulaw. Trodd y llywiadur a'i agerfad yn ol a'n llythyrau gydag ef, ac yn ei blaen yr ai ein llestr gan aredig y dyfnder, a chysgodion nos yn araf ledu dros y ffurfafen.

I rywrai oedd yn ein plith oedd yn ffarwelio a'u gwlad am flynyddoedd, ac i eraill o blant gwledydd pell oedd wedi